Grange Pavilion
I’ll meet you at the pavilion for 9. Should give us enough time before their naps.
One foot stomping in tiny puddles, delicately figuring out the slight slope in the park. It must feel like a mountain to you. Y mynydd.
Be kind to yourself, it’s all part of an amazing journey
How was your sleep? Those little words that either bring joy or despair. Shall we grab a coffee anyway? I’m on decaf but it will feel the same! And split a brookie? Or one each if they’ve been up all night. How many times were they up? 4? Yeah that deserves a full one.
I got chatting to someone once in the playground, total stranger but they are now one of my closest friends!
We rumble out of the toy library on the hunt for some lunch… going to try that new recipe one of the mums sent over this afternoon… Figuring out new games for you. A toy rotation or two. Have you tried hiding their animals yet? A dog barks and wakes you. Throwing the whole day off, it’s hard to catch your breath sometimes.
It is true what they say, it all goes so quickly
Walking gives me the space to be myself again. I’m a whole new me in the rumble of everything, tiny baby grows out on the line, I wonder what bump will look like? I wonder what they’ll sound like. Mama, baba, up, up, up.
Enjoy the newborn bubble bliss
Milk stained pjays, toothpaste in my hair, who knows what parcel has arrived today.
Be more easy on myself.
Put too much pressure on myself.
I’ll meet you at the pavilion, we can walk from there.
Pafiliwn Grange
Gwrdda i ti yn y Pafiliwn am 9. Dylai roi digon o amser i ni cyn bod angen cysgu arnyn nhw.
Un droed yn stompio mewn pyllau bach, gan ffeindio'i ffordd yn ofalus ar hyd y llethr bach yn y parc. Mae'n rhaid ei fod e’n teimlo fel mynydd. Y Mynydd.
Bydd yn garedig â ti dy hun, mae'r cyfan yn rhan o daith anhygoel
Sut gysges di? Y geiriau bach yna sydd naill ai'n dod â llawenydd neu anobaith. Gewn ni goffi ta beth? Dw i ar y decaff ond bydd e’n teimlo'r un peth! A rhannu brookie? Neu un yr un os ydyn nhw wedi bod ar ddihun drwy'r nos. Sawl gwaith ddeffron nhw? 4? Ydy, mae hynny'n haeddu un cyfan.
Cefais sgwrs â rhywun unwaith yn y lle chwarae, dieithryn llwyr ond nawr mae’n un o fy ffrindiau agosaf!
Ry’n ni’n tywallt allan o'r llyfrgell deganau i chwilio am damaid o ginio... mynd i drio'r rysáit newydd yna wnaeth un o'r mamau ei hanfon ata’ i prynhawn ‘ma... Trefnu gêmau newydd i ti. Cylchdroi tegan neu ddau. Wyt ti wedi trïo cuddio’i anifeiliaid eto? Mae ci yn cyfarth ac yn dy ddeffro. Wrth daflu'r diwrnod cyfan i ffwrdd, mae'n anodd dal dy anadl weithiau.
Mae'n wir beth maen nhw'n ei ddweud, mae popeth yn mynd mor gyflym
Mae cerdded yn rhoi lle i mi fod yn fi fy hun eto. Rwy'n rhywun hollol newydd ym mwrlwm popeth, dillad babi bach pitw allan ar y lein, tybed sut olwg fydd ar bwmp? Tybed sut fyddan nhw’n swnio. Mama, baba, lan, lan, lan.
Mwynha wynfyd y swigen babi newydd-anedig
Pyjamas yn llawn staeniau llaeth, past dannedd yn fy ngwallt, pwy a ŵyr pa barsel sydd wedi cyrraedd heddi’.
Bod yn fwy caredig â fi fy hun.
Rhoi gormod o bwysau arna’ i fy hun.
Gwrdda i ti yn y Pafiliwn, allwn ni gerdded o fan’na.